Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y
Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
CFP(4)-03-11 papur 3
TYSTIOLAETH
YSGRIFENEDIG LLYWODRAETH CYMRU I GRŴP GORCHWYL A GORFFEN
PWYLLGOR YR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD AR DDIWYGIO’R POLISI
PYSGODFEYDD CYFFREDIN (PPC)
Crynodeb
Gweithredol
Mae Llywodraeth
Cymru yn gyfrifol am reoli pysgodfeydd ym moroedd tiriogaethol
Cymru (0-12 milltir fôr) a rhoi’r Polisi Pysgodfeydd
Cyffredin ar waith ym mharth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn
cefnogi yn fras y materion pennawd o dan y cynigion i
ddiwygio’r PPC. Fodd bynnag, nid yw’r manylion
wedi’u cyflwyno eto ac mae pryder yn parhau yn hyn o
beth.
Er enghraifft,
byddem yn cefnogi pob mesur i roi terfyn ar yr arfer o daflu
pysgod yn ôl ond mae angen i’r cynigion fod yn
ymarferol a bod modd eu gorfodi. Ar ben hyn, ymddengys bod y
cynigion i fasnacheiddio hawliau pysgota fel ffordd o
leihau’r capasiti gormodol sy’n cael ei amgyffred yn y
sector hefyd yn synnwyr cyffredin. Fodd bynnag, rhaid bod mesurau i
amddiffyn swyddi pysgota arfordirol bach mewn cymunedau
gwledig, neu mae perygl y bydd nifer fechan o fentrau masnachol
mawr yn prynu neu’n buddsoddi yn yr hawliau pysgota
hyn.
Fodd bynnag, nid
yw’r cynigion yn mynd mor bell mewn rhai meysydd ag yr
amlinellodd y Comisiwn yn ei bapur gwyrdd. Er enghraifft, roedd
awydd clir gan y Comisiwn Ewropeaidd i ddatganoli’r broses
gwneud penderfyniadau. Bydd angen i ni aros i weld manylion y
cynnig hwn ond ymddengys y byddai’r Comisiwn yn ffafrio
penderfynu ar gyfleoedd pysgota drwy gynllun rheoli rhanbarthol
hirdymor yn hytrach na dirprwyo i Aelod-wladwriaethau
rhanbarthol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi
ymrwymo’n llawn i’r trafodaethau presennol ar lefel y
DU. Cyflwynir ymateb y DU i gynigion y Comisiwn ym mis Tachwedd
eleni. Ar hyn o bryd rwy’n cael ar ddeall bod disgwyl i
Senedd Ewrop roi adroddiad ar y cynigion ddiwedd yr haf 2012. Drwy
gydol y cyfnod hwnnw byddaf yn parhau i weithio gyda’m
haelodau cyfatebol yn y DU i sicrhau llais i Gymru yn y
trafodaethau sydd i ddod.
Materion Allweddol
·
Taflu Pysgod yn Ôl:
Mae’n rhaid rhoi terfyn ar yr arfer o daflu pysgod marw neu
sy’n marw yn ôl. Mae angen rhagor o fanylion gan y
Comisiwn ond mae’n rhaid i’r mesurau fod yn ymarferol a
bod modd eu gorfodi.
·
Hawliau Pysgota Cyfnewidiadwy: Rydym
yn cefnogi defnyddio hyn i ddelio â chapasiti gormodol yn y
sector masnachol mwy sy’n dal y rhan helaeth o bysgod, ond
mae angen mesurau i amddiffyn pysgodfeydd arfordirol
bach.
·
Rhanbartholi: Mae siom
ynghylch y diffyg rhanbartholi yn y cynigion.
·
Pysgota arfordirol bach: Wrth
ddiwygio’r PPC dylid cydnabod pwysigrwydd y sector mewndirol
a sicrhau bod unrhyw newidiadau’n ystyried yr effeithiau
posibl ar gymunedau arfordirol bregus.
|
|
- Mae Llywodraeth
Cymru yn croesawu’r cyfle i ystyried Rheoliad arfaethedig
Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (y
cyfeirir ato wedi hyn fel y ‘PPC’). Mae Llywodraeth
Cymru wedi cyfrannu at ddatblygu safbwynt y DU ar y PCC, ac rydym
yn cytuno’n fras â’r Polisi. Fodd bynnag, mae
rhai problemau mwy difrifol yng Nghymru ac rydym yn
gwerthfawrogi’r cyfle i’w crybwyll yma.
Cefndir
- Caiff
pysgota’i reoleiddio o dan y PPC, a chan lywodraethau
cenedlaethol yr Aelod-wladwriaethau. Yn y DU mae rheoli pysgodfeydd
wedi’i ddatganoli gyda’r holl weinyddiaethau
pysgodfeydd yn cyfrannu at safbwynt y DU ar faterion Ewropeaidd.
Fodd bynnag, Llywodraeth y DU, ac yn fwy penodol Gweinidog DEFRA,
sy’n cadw cyfrifoldeb cyffredinol dros faterion Ewropeaidd.
Caiff fflyd bysgota’r DU ei rhannu’n 3 sector. Yn
gyntaf ceir ‘y sector’, sef cychod diwydiannol mawr gan
fwyaf (dros 10m) sy’n berchen i Gyrff Cynhyrchwyr (sefydlwyd
Cyrff Cynhyrchwyr o dan gyfraith yr UE ac maent yn rheoli
cwota’u haelodau). Yr ail yw’r cychod
‘di-sector’ dros 10m nad ydynt yn perthyn i Gorff
Cynhyrchwyr. Rheolir eu cwota gan y Llywodraeth drwy system
gydgasglu. Y trydydd sector, a’r pwysicaf o safbwynt Cymreig,
yw’r ‘dan 10’. Cychod o dan 10m yw’r rhain
nad ydynt yn aelod o Gorff Cynhyrchwyr, a chaiff eu cwota ei reoli
yn ôl terfynau dalfeydd misol sy’n cael eu gosod gan y
Llywodraeth drwy system gydgasglu.
- Mae oddeutu 460 o
gychod pysgota cofrestredig yng Nghymru, ond ychydig yw’r
rhai sy’n berchen i Gyrff Cynhyrchwyr ac mae’r mwyafrif
llethol (dros 90%) yn llai na 10 metr. Mae’r fflyd felly bron
yn llwyr o dan ofal a rheolaeth y Llywodraeth. Mae’r cychod
hyn yn rhy fach i deithio’n bell, ac ni allan bysgota am
amser hir nac mewn tywydd garw. O gymharu gall y cychod mawr
sy’n dominyddu’r sector bysgota yn y rhan fwyaf o
dywydd, gallant bysgota am fwy o amser a gallant ddal llawer mwy o
bysgod. Felly gall cyfle pysgota cymharol fach (h.y. cwota) gynnal
nifer anghyfrannol o fawr o swyddi mewn cymunedau arfordirol bach
lle ceir prin gyfleoedd gwaith eraill.
- Yn 2010, glaniodd
cychod y DU werth £17.6 miliwn o bysgod a physgod cregyn yng
Nghymru, oedd yn fwy nag yn 2009 (£16.6 miliwn) ond yn llai
nag yn 2008 (£18.6 miliwn) pan oedd llawer o gregyn bylchog
yn cael eu pysgota, oedd yn werth £5.2 miliwn ar ei ben ei
hun. Er na chafodd y pysgod hyn i gyd eu dal yng Nghymru na’u
dal gan gychod o Gymru, mae’n rhoi syniad o faint y dalfeydd
yng Nghymru. Glaniwyd cyfanswm o werth £549 miliwn o bysgod
yn y DU gan gychod y DU, gyda’r mwyafrif yn yr Alban
(£370 miliwn)[1].
- Mae pysgodfeydd
mewndirol yn hollbwysig i ddiwydiant pysgota Cymru. Mae’r
cychod hyn wedi dioddef yn sgil y sector masnachol mawr sy’n
gallu codi’i lais yn fwy i gael mwy o gyfleoedd. Wrth geisio
delio â’r amgyffrediad o gapasiti gormodol a thaflu
pysgod yn ôl, mae’n rhaid i’r Comisiwn
ganolbwyntio’r camau gweithredu hyn ar y sector masnachol
mawr, ac ar yr un pryd sicrhau nad yw unrhyw fesurau’n rhoi
unrhyw bwysau pellach ar y busnesau pysgota bach sy’n rhan o
wneuthuriad ein cymunedau arfordirol.
Taflu Pysgod
yn Ôl
- Mae Llywodraeth
Cymru yn cefnogi’r awydd i roi terfyn ar daflu pysgod yn
ôl. Nid oes modd cyfiawnhau taflu pysgod mawr neu sy’n
marw yn ôl. Fodd bynnag, mater gwahanol yw taflu pysgod neu
bysgod cregyn byw yn ôl a fydd yn goroesi a rhaid i hyn
barhau. Am y rheswm hwn rydym yn falch nad yw’r Comisiwn am
gyflwyno gwaharddiad cyffredinol ar daflu pob rhywogaeth yn
ôl.
- Fodd bynnag, mae
gan Lywodraeth Cymru bryderon ynghylch ymarferoldeb gwahardd taflu
yn ôl, yn enwedig mewn pysgodfa gymysg. Heb newidiadau
i’r gyfundrefn cwotâu ar gyfer pysgodfeydd cymysg,
mae’n debygol y bydd llawer o bysgodfeydd yn dod i derfyn
cwota ar gyfer un rhywogaeth, ond â gormodedd ar gyfer
rhywogaeth arall. Mae’n anodd rhoi sylw pellach heb weld
manylion y cynigion a fydd yn dechrau dod i’r amlwg yn
ddiweddarach eleni.
Hawliau
Pysgota Cyfnewidiadwy
- Rydym yn pryderu
nad oes digon o fanylion i’r ‘hawliau pysgota
cyfnewidiadwy’ i gael trafodaeth ddigonol. Os nad yw’r
mesurau diogelwch yn ddigonol, gallai arwain at roi hawliau pysgota
yn nwylo nifer fach o fusnesau pysgota mawr ar draul fflydoedd bach
sy’n bwysig i’r pentrefi arfordirol o amgylch
Cymru.
- Mae’r
Comisiwn o’r farn bod gormod o gychod yn mynd ar ôl rhy
ychydig o bysgod. Problem gyda chychod masnachol mawr yw hyn yn
bennaf. Mae’r tywydd ac ati yn cyfyngu ar waith cychod bach
ac mae’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn y DU wedi’u
rhoi o dan y fath anfantais fel bod y cyfleoedd pysgota sydd ar
gael yn y sector hwn yn anghyfrannol o fach. Mae achos i’r
diwydiant geisio ariannu’i drefn ei hun ar gyfer datgomisiynu
cychod. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y mesurau hyn yn ddigon
eang i alluogi gwledydd yr Aelod-wladwriaethau i ddiogelu
pysgodfeydd bach. Rydym o’r farn y dylai’r
Aelod-wladwriaethau barhau i fod yn gyfrifol am reoli’r
adnodd cyhoeddus hwn mor effeithiol â
phosibl.
- O dan y cynigion
byddai’r Aelod-wladwriaethau’n gyfrifol am bennu
cyfleoedd pysgota ar gyfer cyflenwadau nad yw’r Cyngor yn
pennu cyfleoedd pysgota ar eu cyfer. Mae hyn yn bryder gan fod y
rhywogaethau di-gwota hyn (draenogod y môr, cimychiaid,
crancod a chregyn bylchog) wedi bod yn fodd o fyw i’r
diwydiant yng Nghymru. Ymddengys y byddai’r cynigion hyn yn
rhoi baich trwm ar y Llywodraeth a hefyd ar y pysgotwyr sy’n
targedu’r cyflenwadau di-gwota presennol. Mae’r
cyflenwadau hyn yn tueddu bod yn lleol a deinamig, ac felly nid
ydynt yn addas ar gyfer dulliau rheoli cyfredol y Comisiwn
Ewropeaidd ar gyfer cyflenwadau cwota. Byddai hyn yn rhoi baich
gwyddonol ychwanegol sylweddol heb lawer o fantais gan y byddai
angen cymryd samplau mawr i ddileu amrywiaethau lleol yn y
cyflenwadau.
Rhanbartholi
11.Mewn ymateb i
bapur gwyrdd y Comisiwn Ewropeaidd ar ddiwygio’r PPC, roedd
Llywodraeth Cymru yn dadlau dros ranbartholi ar sail pysgodfeydd
arfordirol bach. Roedd hyn yn cynnwys ystyriaeth i’r
Aelod-wladwriaethau ddatblygu annibyniaeth ymhellach i reoleiddio a
rheoli’r pysgodfeydd yn ei eu moroedd
tiriogaethol.
12.Dylai dull
gweithredu rhanbarthol alluogi rheolaeth well ar lefel ecosystem ac
addasu i amgylchiadau lleol. Ymddengys nad yw’r cynigion
presennol ar ddiwygio’r PPC yn mynd yn ddigon pell. Yn
hytrach ymddengys bod y Comisiwn am hyrwyddo cynlluniau rheoli
hirdymor ar gyfer rhywogaethau fel ffordd o ranbartholi. Oni bai
bod y model hwn yn cael ei osod ar raddfa wirioneddol ranbarthol,
byddai’n parhau’n her i’r Aelod-wladwriaethau
gytuno ar gynlluniau o’r natur hon. Byddai hyn yn arwain at
fodel lle byddai’r Comisiwn yn penderfynu yn y pen draw ar
gyfleoedd pysgota. Ni fyddai hyn yn cyflawni’r amcan o
ddatganoli’r broses o wneud penderfyniadau, ac nid yw’n
cynnig unrhyw beth gwahanol i’r dull gweithredu PCC
cyfredol.
Pysgodfeydd
arfordirol bach
13.Mae Llywodraeth
Cymru yn cydnabod yr anhawster o ran cynllunio system ddwy haen i
adlewyrchu natur wahanol y sector a physgodfeydd mewndirol.
Ar yr un pryd mae angen cydnabod bod natur wahanol i’r
rhannau hyn o’r fflyd a hefyd nad oes un ateb i bob
sefyllfa.
14.Yng Nghymru, mae
gan y fflyd mewndirol rôl gynyddol bwysig i’w chwarae
mewn cymunedau arfordirol. Mae perygl y bydd diwygio’r PPC yn
canolbwyntio ar faterion anodd mewn perthynas â’r
sector heb unrhyw ystyriaeth i natur y fflyd mewndirol. Mae’r
cyflenwadau y mae’r fflyd mewndirol yn eu targedu yn tueddu i
fod yn lleol ac yn ddeinamig. Nid yw dulliau rheoli cyfredol y
Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cyflenwadau cwota yn addas i’r
cyflenwadau hyn. Felly, mae angen i’r cynigion diwygio
gydnabod natur wahanol y sector morol, a’r fflydoedd
mewndirol.
Casgliad
15.Mae’r
trafodaethau ar bapur diwygio’r PPC ac ymateb y DU yn
canolbwyntio’n bennaf ar bysgota masnach ar raddfa fawr lle
ceir problemau hysbys. Ar yr un pryd, ceir cydnabyddiaeth bod angen
dull gweithredu ar sail ecosystemau. Mae’r rhanbarth
mewndirol yn cyfrannu’n sylweddol at yr ecosystem, ond mae
hwn yn faes cymhleth sydd angen dull gweithredu penodol a mesurau
rheoli. Felly yn ein barn ni nid yw’n briodol cyflwyno un
polisi unochrog ar gyfer y sector morol a’r sector
mewndirol.
16. Mae
Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y rhanbarth mewndirol.
Mae’r mwyafrif o fflyd Cymru yn gweithredu yn yr ardal hon ac
maent wedi’u cyfyngu o ran eu hardal a’r rhywogaethau y
cânt eu dal. Felly rydym yn dadlau bod angen datblygu dull
gweithredu ategol ar gyfer pysgodfeydd mewndirol fel rhan o
gynigion diwygio’r PPC.
Alun Davies,
AC
Y Dirprwy Weinidog
Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd